Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Mynediad at Fancio |
Access to Banking |
EIS(5)AB06 |
|
Ymateb gan Cyngro Llyfrau Cymru |
Evidence from Welsh Books Council |
Rydym wedi gweld newid yn agwedd y
banciau tuag at y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r
rhan fwyaf o wasanaethau bellach ddim ond ar gael drwy gyfrwng y
Saesneg. Rydym yn parhau i dderbyn cyfriflen Gymraeg, ond
mae’r holl ffurflenni yn gorfod cael eu paratoi yn
Saesneg.
Rydym yn gresynu at ddiffyg dealltwriaeth y banciau o’r ffordd y mae’r sector gymunedol yn gweithredu – yn arbennig mewn sector lle mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y Cyngor yn newid yn gyson, ond lle mae’r staff sydd yn gweinyddu cyllid ar ran yr elusen yn annhebygol o newid.
Gwrthodwyd mynediad i system BACS oherwydd eu bod yn ystyried maint yr elusen (trosiant o £7m) yn rhy fach i fod yn gymwys ar gyfer system BACS. Mae hyn wedi creu problemau gweinyddol dirfawr, ac yn golygu na allwn weithredu mor effeithiol â chwmnïau neu elusennau sydd â mynediad i system BACS.
Er bod cangen o’r banc yn Aberystwyth, nid ydym wedi cael cyswllt rheolaidd gydag un aelod o staff o fewn y banc, ac mae’r broses o geisio cael atebion yn gallu bod yn hirwyntog a heb ddatrysiad. Cafwyd problemau gyda cheisiadau mynych gan wahanol adrannau o’r banc am yr un wybodaeth at bwrpas diogelwch (safeguarding), ond eto, does yna’r un elfen o wasanaeth cwsmeriaid sydd yn cael ei darparu gan un gangen.
Mae nifer o’r cyhoeddwyr a’r siopau sy’n ymwneud â’r Cyngor Llyfrau wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig, a gwyddom fod diffyg banc yn gallu achosi problemau sylweddol iddyn nhw – yn arbennig lle mae angen teithio am nad oes yr un banc yn yr ardal.
Nid yw’r banciau’n ymddangos fel petaen nhw’n awyddus i gefnogi busnesau bach, nac yn poeni am ansawdd gwasanaeth i’w cwsmeriaid, ac mae lle yn y farchnad i ddarparwr sydd yn wahanol, ac yn fwy agored i weithio mewn cydweithrediad ag elusennau a mudiadau gwirfoddol.
Byddai’r Cyngor Llyfrau yn falch o drafod y pwyntiau hyn, neu unrhyw beth arall am yr ymateb hwn, gyda Phwyllgorau, Ysgrifenyddion y Cabinet neu Weinidogion, os dymunir.